Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Sgorio Hylendid Bwyd
(Cymru)
1. Ar 28 Mai 2012, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn pennu dyddiad cau o 16 Hydref 2012 i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried egwyddorion cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a chyflwyno adroddiad arnynt.
2.
Ar 3 Gorffennaf 2012, cytunodd y
Pwyllgor Busnes i osod adroddiad diwygiedig yn nodi bod y dyddiad
cau hwn wedi’i newid i 5 Hydref 2012, er mwyn
adlewyrchu’n gywir yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil.